YRP Webinar – Beyond the tracks: Rail’s contribution to the UK Session Summary This presentation will delve into the findings of ‘Beyond the tracks: Rail’s contribution to the UK’, a comprehensive report by WPI Economics and Rail Delivery Group. The report underscores the critical role rail plays in driving economic growth, supporting the country’s shift to net zero, and connecting communities across the UK. The session will also highlight findings from a complementary research paper examining how rail travel drives spending in local businesses around stations and on local high streets across Great Britain. Whether you're a rail professional, policymaker, or just passionate about the future of transport, this session will provide valuable insights into rail’s current contributions to the economy, environment, and society and what potential lies ahead over the next decade. About the presenter Juste Raipaite is a Media Relations Manager at Rail Delivery Group (RDG), a membership organisation that works on behalf of the rail industry to create a simpler, better railway for rail customers. As Media Relations Manager, she is responsible for crafting and managing media strategies to enhance RDG’s reputation, handling press inquiries and delivering effective media campaigns and messages to support the rail industry's goals and initiatives. Most recently, she led the strategic development and delivery of ‘Beyond the tracks: Rail’s contribution to the UK’ and ‘Unlocking the Economic Benefits of Rail to Local Communities’ research. Gweminar YRP – Y tu hwnt i’r traciau: cyfraniad y rheilffyrdd i’r DU Crynodeb o'r Sesiwn Bydd y cyflwyniad hwn yn ymchwilio i ganfyddiadau ‘Y Tu Hwnt i’r Traciau: Cyfraniad y Rheilffyrdd i’r DU’, adroddiad cynhwysfawr gan WPI Economics and Rail Delivery Group. Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r rôl hollbwysig y mae rheilffyrdd yn ei chwarae wrth hybu twf economaidd, cefnogi symudiad y wlad i sero net, a chysylltu cymunedau ar draws y DU. Bydd y sesiwn hefyd yn tynnu sylw at ganfyddiadau papur ymchwil cyflenwol sy’n archwilio sut mae teithio ar drenau yn ysgogi gwariant mewn busnesau lleol o amgylch gorsafoedd ac ar strydoedd mawr lleol ledled Prydain. P’un a ydych chi’n weithiwr proffesiynol ym maes y rheilffyrdd, yn wneuthurwr polisi, neu’n angerddol am ddyfodol trafnidiaeth, bydd y sesiwn hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar gyfraniadau presennol y rheilffyrdd i’r economi, yr amgylchedd, a’r gymdeithas a pha botensial sydd o’n blaenau dros y degawd nesaf. Am y cyflwynydd Mae Juste Raipaite yn Rheolwr Cysylltiadau â’r Cyfryngau yn Rail Delivery Group (RDG), sefydliad aelodaeth sy’n gweithio ar ran y diwydiant rheilffyrdd i greu rheilffordd symlach, well, ar gyfer cwsmeriaid rheilffyrdd. Fel Rheolwr Cysylltiadau â’r Cyfryngau, mae’n gyfrifol am lunio a rheoli strategaethau cyfryngau i wella enw da RDG, ymdrin ag ymholiadau’r wasg a chyflwyno ymgyrchoedd a negeseuon cyfryngau effeithiol i gefnogi nodau a mentrau’r diwydiant rheilffyrdd. Yn fwyaf diweddar, bu’n arwain datblygiad a chyflwyniad strategol ymchwil ‘Y Tu Hwnt i’r Traciau: Cyfraniad y Rheilffyrdd i’r DU’ a ‘Datgloi Manteision Economaidd Rheilffyrdd i Gymunedau Lleol’. 
|