|
YRP Wales: Politics in Rail Panel Event Young Rail Professionals Wales invites you to an unmissable panel debate exploring the intersection of politics and the rail industry. Held at the iconic Pierhead Building in Cardiff Bay, this event is part of our flagship Politics in Rail series, bringing together leaders, policymakers and industry experts to discuss the evolving landscape of rail in Wales. Sponsored by Ken Skates, Member of the Senedd. What to Expect - A dynamic panel discussion on how politics shapes the rail industry
- Insightful Q&A with key figures in the sector (speakers to be announced soon!)
- Informal networking opportunities before and after the main session
- Complimentary refreshments provided
Event Schedule - 11:30-12:30 Networking & Lunch
- 12:30-14:00 Panel Debate & Q&A
- 14:00-14:30 Final Networking & Close
Host: Lewis Brencher Lewis Brencher is Executive Director of Customer and Communications at Transport for Wales, where he leads the strategic development of customer experience and communications to help deliver a transport network that meets the needs of communities across Wales. With a background in strategic communications, marketing, operations and behaviour change, Lewis is passionate about using transport as a force for social value and economic growth. He is a Chartered Institute of Public Relations (CIPR) and Institute of Railway Operators (IRO) member, and currently serves as Trustee and Chair of the Cymru Committee forhashtagCitizens Advice UK as well as Vice Chair of RCT Citizens Advice. A graduate of Aberystwyth University, Lewis brings over a decade of experience in customer experience, public service communications and stakeholder engagement.
Speaker: Robin Smith Having graduated from Cambridge University with a degree in Metallurgy in 1971, Robin made an immediate career switch and joined the Transport and Shipping Department of the then British Steel Corporation. He remained in the steel industry for 36 years undertaking a number of management roles, mainly involved with rail operations. These included being internal Traffic Manager of a large integrated steelworks, and later having responsibility for external rail movements as well as contract managing both port and warehouse activities. The latter included the implementation of a railhead strategy that switched about 1.5 million tonnes of steel deliveries out of South Wales from road to rail movement into a number of strategic warehouses in the main steel consuming regions for storage before final, just-in-time, short distance road delivery. After retirement Robin spent 8 months working for DSV Road looking at potential rail synergies and opportunities, and this widened his experience into the intermodal market. He was appointed RFGs Welsh Representative in 2008 and, in 2009, also took responsibility for covering the West Midlands. When not undertaking RFG activities, Robin spends most of his time looking after the finances and the fabric of the Grade 1 Listed St Mary’s Priory Church in Abergavenny. Speaker: Samuel Rowlands Sam Rowlands is the Member of the Welsh Parliament (Senedd) for North Wales and he is Shadow Cabinet Secretary for Finance, Transport & Infrastructure and Policy Director for the Welsh Conservative Party.
Sam was elected to represent the North Wales Electoral Region at the 2021 Welsh Parliament Elections. Prior to his election, Sam was the Leader of Conwy County Borough Council between 2019 and 2021. He worked as a Credit Risk Manager for HSBC between 2009 and 2019.
Sam was first elected to both Conwy County Borough and Abergele Town Councils in 2008, and stood down at the 2022 Local Government Elections. He served as Abergele’s youngest ever Mayor between 2015 and 2016. Spaces are limited, so secure your spot today and be part of the conversation that drives change in rail. YRP Cymru: Digwyddiad Panel Gwleidyddiaeth mewn Rheilffyrdd Dyddiad: Dydd Mercher 5 Tachwedd Lleoliad: Adeilad y Pierhaed, Bae Caerdydd, CF10 4PZ Mae Gweithwyr Ifanc Proffesiynol Rheilffyrdd Cymru yn eich gwahodd i ddigwyddiad panel na ellir ei cholli yn archwilio croestoriad gwleidyddiaeth a'r diwydiant rheilffyrdd. Cynhelir y digwyddiad hwn yn Adeilad eiconig y Pierhead ym Mae Caerdydd, ac mae'n rhan o'n cyfres flaenllaw Gwleidyddiaeth mewn Rheilffyrdd, sy'n dod ag arweinwyr, llunwyr polisi ac arbenigwyr yn y diwydiant ynghyd i drafod tirwedd esblygol rheilffyrdd yng Nghymru.
Noddir gan Ken Skates, Aelod o'r Senedd Beth i'w ddisgwyl - Trafodaeth banel ddeinamig ar sut mae gwleidyddiaeth yn siapio'r diwydiant rheilffyrdd
- Sesiwn Holi ac Ateb gyda ffigyrau allweddol yn y sector (siaradwyr i'w cyhoeddi'n fuan!)
- Cyfleoedd rhwydweithio anffurfiol cyn ac ar ôl y brif sesiwn
- Darperir lluniaeth am ddim
Amserlen y Digwyddiad - 11:30-12:30 Rhwydweithio a Chinio
- 12:30-14:00 Trafodaeth Banel a sesiwn Holi ac Ateb
- 14:00-14:30 Rhwydweithio a Chloi
Cyflwynydd: Lewis Brencher Lewis Brencher yw Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid a Chyfathrebu yn Trafnidiaeth Cymru, lle mae'n arwain datblygiad strategol profiad cwsmeriaid a chyfathrebu i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n diwallu anghenion cymunedau ledled Cymru. Gyda chefndir mewn cyfathrebu strategol, marchnata, gweithrediadau a newid ymddygiad, mae Lewis yn angerddol am ddefnyddio trafnidiaeth fel grym ar gyfer gwerth cymdeithasol a thwf economaidd. Mae'n aelod o'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) a Sefydliad y Gweithredwyr Rheilffyrdd (IRO), ac ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu fel Ymddiriedolwr a Chadeirydd Pwyllgor Cymru ar gyfer Cyngor ar Bopeth y DU yn ogystal ag Is-gadeirydd Cyngor ar Bopeth RhCT. Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, mae Lewis yn dod â dros ddegawd o brofiad mewn profiad cwsmeriaid, cyfathrebu gwasanaethau cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Siaradwyr: Robin Smith Ar ôl graddio o Brifysgol Caergrawnt gyda gradd mewn Meteleg ym 1971, newidiodd Robin yrfa ar unwaith ac ymunodd ag Adran Drafnidiaeth a Llongau'r Gorfforaeth Dur Brydeinig bryd hynny. Arhosodd yn y diwydiant dur am 36 mlynedd gan ymgymryd â nifer o rolau rheoli, yn bennaf yn ymwneud â gweithrediadau rheilffordd. Roedd y rhain yn cynnwys bod yn Rheolwr Traffig mewnol gwaith dur integredig mawr, ac yn ddiweddarach yn gyfrifol am symudiadau rheilffordd allanol yn ogystal â rheoli contractau gweithgareddau porthladd a warws. Roedd yr olaf yn cynnwys gweithredu strategaeth pen rheilffordd a newidiodd tua 1.5 miliwn tunnell o gyflenwadau dur allan o Dde Cymru o symudiadau ffordd i symudiadau rheilffordd i nifer o warysau strategol yn y prif ranbarthau sy'n defnyddio dur i'w storio cyn eu danfon yn derfynol, mewn pryd, dros bellter byr ar y ffordd. Ar ôl ymddeol treuliodd Robin 8 mis yn gweithio i DSV Road yn edrych ar synergeddau a chyfleoedd rheilffordd posibl, ac ehangodd hyn ei brofiad i'r farchnad ryngfoddol. Fe'i penodwyd yn Gynrychiolydd Cymru Rail Freight Group yn 2008 ac, yn 2009, cymerodd gyfrifoldeb hefyd am gwmpasu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Pan nad yw'n ymgymryd â gweithgareddau Rail Freight Group, mae Robin yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn gofalu am gyllid Eglwys Priordy'r Santes Fair yn y Fenni, sydd wedi'i rhestru'n Radd 1. Siaradwyr: Samuel Rowlands Mae Sam Rowlands yn Aelod o Senedd Cymru yn cynrychioli Gogledd Cymru ac ef yw Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid, Trafnidiaeth a Seilwaith a Chyfarwyddwr Polisi Plaid Geidwadol Cymru. Etholwyd Sam i gynrychioli Rhanbarth Etholiadol Gogledd Cymru yn Etholiadau Senedd Cymru 2021. Cyn ei ethol, Sam oedd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy rhwng 2019 a 2021. Rhwng 2009 a 2019, bu'n gweithio fel Rheolwr Risg Credyd i HSBC. Cafodd Sam ei ethol gyntaf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac i Gyngor Tref Abergele yn 2008, ac fe wnaeth sefyll i lawr yn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022. Ef oedd Maer Abergele rhwng 2015 a 2016 – yr ieuengaf erioed. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly sicrhewch eich lle heddiw a byddwch yn rhan o'r sgwrs sy'n hybu newid ym maes rheilffyrdd.
|